Croeso i wefan Bethel Parcyrhos.  Bydd yr Oedfa nesaf ar fore Sul 5ed Gorffennaf am ddeg o'r gloch.

Bethel Parcyrhos

Yn rhan o ofalaeth Eglwysi Annibynnol Bethel Parcyrhos,

Esgairdawe, Ffaldybrenin, Rhydybont, Crugybar a Shiloh Llansawel

 

 

Y gynulleidfa mewn oedfa gymun.

Bethel Parcyrhos

 

Saif Capel Cynulleidfaol Bethel dafliad carreg o'r Afon Eiddig ar y bryn uwchlaw pentre bach Parcyrhos, ond islaw prif hewl A482 yng Nghwmann sy'n arwain o Lanbedr Pont Steffan i Lanwrda yn Sir Gaerfyrddin.

 

Y Parch Huw Roberts

 

Peth peryglus yw gadael y drws ar agor ond trwy hyn o wefan yr ydym yn eich croesawu chwi i gyd, pwy bynnag yr ydych, i ddod i fewn i aros gyda ni am ychydig.  Cewch weld ychydig o fywyd yr achos yma ym Methel.  Sylwch mai ychydig y dywedais oherwydd amhosibl yw crynhoi i gyd holl agweddau bywyd eglwys Iesu Grist. Ond mae’r drws ar agor a chroeso yn eich disgwyl.  Gobeithiaf y cewch fendith wrth ymweld â ni.

 

Mae'r Eglwys yn rhan o Gyfundeb Ceredigion o

 Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

 

Neges y gweinidog, Y Parch Huw Roberts:

  

Un o’r pethau sydd yn dueddol o ddigwydd ym mywyd bob yr un ohonom ydyw gofidio.  Tybed a yw anifail yn gofidio, hwyrach mae’r ateb yw “nac ydyw”, heblaw bod gyda chwi brawf i’r gwrthwyneb.  Y mae yn rhywbeth sydd yn gallu peri i ni golli cwsg a gwneud bywyd yn ddiflas.  Mae doethineb yn dweud na ddylem gario gofidiau ddoe i fewn i yfory.  Llawer gwell byddai i ni fyw un dydd ar y tro. 

 

 Mae yna stori am George Muller Massena, (cadfridog ym myddin Napoleon),  yn dod â byddin o ddeunaw mil yn erbyn tref yn Awstria.  Nid oedd gan y dref unrhyw fodd i amddiffyn ei hunan.  Fe ddaeth aelodau’r cyngor at ei gilydd a phenderfynwyd eu bod yn mynd i ildio ond yr oedd un deon yn yr eglwys yn eu hatgoffa mai’r Pasg oedd hi a gwell fyddai i barhau fel arfer gyda’r gwasanaethau a gadael popeth arall yn nwylo Duw.  Fe aeth y deon i’r eglwys i ganu’r gloch i gyhoeddi’r gwasanaeth a phan glywodd Massena y clychau yn canu fe dybiodd fod byddin Awstria yn dod i achub y lle a gadawodd ar unwaith, fe ddywed rhai cyn i’r clychau i orffen canu.

 

Gofidio sy’n tynnu cwmwl yfory i guddio heulwen heddiw.  Ar ôl rhoi ein gofidiau i ofal Duw ein tad nefol beth fydd ar ôl i ofidio amdano.  “Na ofelwch am yr yfory, digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun”.  

Cyfeirir at yr achos ym Methel Parcyrhos

yn Llyfr Newydd Alun Eirug Davies

am ei dad T. Eirug Davies

a chyn weinidog yn Methel.

Eirug - Portread Mewn Llun a Gair

Elw Cyngerdd Corisma

 

Ann, Avril, Llinos, Gwen, Adeline, Eirwyn, Cyril ac Eric yn cyflwyno siec o £1,000 i Adran Oncoleg Ysbyty Caerfyrddin, elw cyngerdd Corisma a gynhaliwyd ym Methel Parcyrhos.

 

Cwrdd Nadolig yr Ysgol Sul - 21 Rhagfyr 2008

 

Yr eira wedi'r Oedfa Gymun - 8 Chwefror 2009

Powered by Recipero Working together with BT