Bethel Parcyrhos
Yn rhan o ofalaeth Eglwysi Annibynnol Bethel Parcyrhos,
Esgairdawe, Ffaldybrenin, Rhydybont, Crugybar a Shiloh Llansawel
|
Ymwelydd arbennig i'r oedfa gymun 13 Medi 2009. |
Saif Capel Cynulleidfaol Bethel dafliad carreg o'r Afon Eiddig ar y bryn uwchlaw pentre bach Parcyrhos, ond islaw prif hewl A482 yng Nghwmann sy'n arwain o Lanbedr Pont Steffan i Lanwrda yn Sir Gaerfyrddin. |
|
Peth peryglus yw gadael y drws ar agor ond trwy hyn o wefan yr ydym yn eich croesawu chwi i gyd, pwy bynnag yr ydych, i ddod i fewn i aros gyda ni am ychydig. Cewch weld ychydig o fywyd yr achos yma ym Methel. Sylwch mai ychydig y dywedais oherwydd amhosibl yw crynhoi i gyd holl agweddau bywyd eglwys Iesu Grist. Ond mae’r drws ar agor a chroeso yn eich disgwyl. Gobeithiaf y cewch fendith wrth ymweld â ni.
Mae'r Eglwys yn rhan o Gyfundeb Ceredigion o |
Neges y gweinidog, Y Parch Huw Roberts: Aeth blwyddyn arall heibio a dyma ni wedi dod i 2010, felly, blwyddyn newydd dda i chwi i gyd. Gobeithio y bydd hon yn un werth ei chofio am y rhesymau gorau. Nid yw 2009 wedi bod yn un rhwydd iawn i lawer o bobl a hynny am wahanol resymau ond ar y cyntaf o Ionawr efallai eich bod fel fi yn meddwl fod gennym dudalen lan i ail ddechrau, i gael cyfle arall i wneud y pethau a ddylsem fod wedi ei gwneud yn y flwyddyn a aeth heibio. I gael cerdded llwybr y flwyddyn a pheidio â chwympo i mewn i’r un problemau a oedd wedi dod i’n rhan ni llynedd. Gobeithio ein bod ni i gyd yn dysgu wrth fynd yn henach a gobeithio nad "Henach, henach; ffolach, ffolach” yw hi yn ein hanes ni. Y ffolineb mwyaf fydd gadael Duw allan o’r flwyddyn newydd hon. Dyma gyfle i ail-gydio mewn ffydd, i gysegru bywyd o’r newydd i waith teyrnas ein Harglwydd Iesu ac i gerdded ymlaen i’r dyfodol gyda gweledigaeth glir o ble yr ydym yn mynd iddo, ac wedi hynny, fe fyddwn yn gallu dweud “Henach henach; doethach, doethach". |
|
Cyfeirir at yr achos ym Methel Parcyrhos yn Llyfr Newydd Alun Eirug Davies am ei dad T. Eirug Davies a chyn weinidog yn Methel. Eirug - Portread Mewn Llun a Gair |
Ann, Avril, Llinos, Gwen, Adeline, Eirwyn, Cyril ac Eric yn cyflwyno siec o £1,000 i Adran Oncoleg Ysbyty Caerfyrddin, elw cyngerdd Corisma a gynhaliwyd ym Methel Parcyrhos. |
|
Cwrdd Nadolig yr Ysgol Sul - 21 Rhagfyr 2008 |
Yr eira wedi'r Oedfa Gymun - 8 Chwefror 2009 |
* * * * * *
Cliciwch ar y ddogfen isod er mwyn gweld trefn Oedfaon yr Ofalaeth:

